Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2020
Amser:
09.15 -
09.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5877
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Carwyn Jones AC Helen Mary Jones AC (yn lle Dai Lloyd AC) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Sargent (Ail Glerc) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC. Roedd Helen Mary Jones AC yn bresennol fel dirprwy.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad i nodi materion sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad i nodi materion sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE.
Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth y DU bellach wedi gosod ei Bil Coronafeirws, ac y byddai dadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Llywydd, gan ychwanegu y byddai’n trafod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
Rhoddodd y Clerc y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr offerynnau statudol a osodwyd gerbron y Cynulliad ond sydd heb eu trafod gan y Pwyllgor eto. Hefyd, trafododd y Pwyllgor rai opsiynau ar gyfer ei ddull o graffu ar offerynnau statudol o dan yr amgylchiadau eithriadol presennol.